2012 Rhif 753 (Cy. 103 )

Y GYMRAEG, CYMRU

Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adrannau 134 i 139 o Bennod 1 o Ran 8 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ynghylch uniondeb cymeriad Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (“y Dirprwy Gomisiynydd”).

Mae adran 134 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd a'r Dirprwy Gomisiynydd (a ddiffinnir at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o'r Mesur fel “deiliaid swydd perthnasol”) greu a chynnal cofrestr buddiannau. Rhaid i gofrestr buddiannau deiliad swydd perthnasol gynnwys ei holl fuddiannau cofrestradwy.

Mae adran 138 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu pa fuddiannau sy'n fuddiannau cofrestradwy at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o'r Mesur.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn gan ddibynnu ar y pŵer a ddarparwyd gan adran 138 o'r Mesur. Mae rheoliad 2 yn cyflwyno'r Atodlen i'r Rheoliadau, sydd yn pennu buddiannau cofrestradwy deiliaid swyddi perthnasol

Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn. 

 


2012 Rhif  753 (Cy.103)

Y Gymraeg, Cymru

Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012

Gwnaed                                 7 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Mawrth 2012

Yn dod i rym                            1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 138 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012.

Buddiannau cofrestradwy

2. Mae'r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn pennu buddiannau cofrestradwy deiliaid swydd perthnasol at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion

Cymru

 

7 Mawrth 2012

                   YR ATODLEN      Rheoliad 2

BUDDIANNAU COFRESTRADWY

RHAN 1

Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) mewn perthynas â deiliad swydd perthnasol yw partner y deiliad swydd perthnasol ac unrhyw blentyn;

ystyr “eiddo perthnasol” (“relevant property”)  yw tir neu eiddo deallusol y mae gan y Comisiynydd fuddiant ynddo lle bo’r buddiant hwnnw wedi ei gaffael drwy arian a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru dan baragraff 14 o Atodlen 1 i’r Mesur;

ystyr “Mesur” (“Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

ystyr “partner” (“partner”) yw priod, partner sifil neu un o gwpl boed hynny o’r un rhyw neu o’r rhyw arall sy’n byw gyda’i gilydd, er nad ydynt yn briod, ac sy’n trin ei gilydd fel dau briod;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw person sydd o fewn  Atodlen 6 neu 8 i’r Mesur (boed hynny fel unigolyn neu fel rhan o grŵp o bersonau); ac

ystyr “plentyn” (“child”) yw unrhyw berson sydd, pan gofrestrir y buddiant, naill ai yn—

(a)     plentyn i’r deiliad swydd perthnasol;

(b)     llysblentyn i'r deiliad swydd perthnasol drwy briodas neu bartneriaeth sifil;

(c)     person sydd wedi ei fabwysiadu'n gyfreithiol gan ddeiliad swydd perthnasol;

(d)     person sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r deiliad swydd perthnasol; neu

(e)     person sy’n iau nag un ar bymtheng mlwydd oed, neu’n iau na phedair ar bymtheng mlwydd oed ac yn derbyn addysg amser-llawn, ac sydd am y chwe mis calendr blaenorol wedi cael cefnogaeth ariannol gan y deiliad swydd perthnasol.

RHAN  2

Buddiannau

Dyma’r buddiannau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2—

(a)     manylion unrhyw swydd neu gyflogaeth a ddelir gan aelod o deulu deliad swydd perthnasol gyda pherson perthnasol;

(b)     manylion unrhyw fuddiant sydd gan ddeiliad swydd perthnasol neu aelod o deulu deiliad swydd perthnasol mewn eiddo perthnasol;

(c)     enwau cwmnïau neu gyrff eraill y mae gan ddeiliad swydd perthnasol, naill ai ar ei ben ei hun neu gydag aelod o’i deulu, neu ar ran  aelod o’i deulu, fuddiant llesiannol mewn cyfranddaliadau; a

(d)     swyddi cyfarwyddwyr am dâl a ddelir gan ddeiliad swydd perthnasol mewn unrhyw  gwmni, gan gynnwys swyddi cyfarwyddwyr na thelir tâl iddynt yn unigol ond lle telir tâl drwy gwmni arall yn yr un grŵp.

 



([1]) 2011 mccc 1.